8 Pâr imi glywed yn y bore am dy gariad,oherwydd yr wyf wedi ymddiried ynot ti;gwna imi wybod pa ffordd i'w cherdded,oherwydd yr wyf wedi dyrchafu fy enaid atat ti.
9 O ARGLWYDD, gwareda fi oddi wrth fy ngelynion,oherwydd atat ti yr wyf wedi ffoi am gysgod.
10 Dysg imi wneud dy ewyllys,oherwydd ti yw fy Nuw;bydded i'th ysbryd daionus fy arwainar hyd tir gwastad.
11 Er mwyn dy enw, O ARGLWYDD, cadw fy einioes;yn dy gyfiawnder dwg fi o'm cyfyngder,
12 ac yn dy gariad difetha fy ngelynion;dinistria'r holl rai sydd yn fy ngorthrymu,oherwydd dy was wyf fi.