6 saetha allan fellt nes eu gwasgaru,anfon dy saethau nes peri iddynt arswydo.
7 Estyn allan dy law o'r uchelder,i'm hachub ac i'm gwareduo ddyfroedd lawer, ac o law estroniaid
8 sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.
9 Canaf gân newydd i ti, O Dduw,canaf gyda'r offeryn dectant i ti,
10 ti sy'n rhoi gwaredigaeth i frenhinoedd,ac yn achub Dafydd ei was.
11 Achub fi oddi wrth y cleddyf creulon;gwared fi o law estroniaid,sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.
12 Bydded ein meibion fel planhigionyn tyfu'n gryf yn eu hieuenctid,a'n merched fel pileri cerfiedigmewn adeiladwaith palas.