7 Estyn allan dy law o'r uchelder,i'm hachub ac i'm gwareduo ddyfroedd lawer, ac o law estroniaid
8 sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.
9 Canaf gân newydd i ti, O Dduw,canaf gyda'r offeryn dectant i ti,
10 ti sy'n rhoi gwaredigaeth i frenhinoedd,ac yn achub Dafydd ei was.
11 Achub fi oddi wrth y cleddyf creulon;gwared fi o law estroniaid,sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.
12 Bydded ein meibion fel planhigionyn tyfu'n gryf yn eu hieuenctid,a'n merched fel pileri cerfiedigmewn adeiladwaith palas.
13 Bydded ein hysguboriau yn llawno luniaeth o bob math;bydded ein defaid yn filoeddac yn fyrddiynau yn ein meysydd;