1 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin,a bendithiaf dy enw byth bythoedd.
2 Bob dydd bendithiaf di,a moliannu dy enw byth bythoedd.
3 Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl,ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy.
4 Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall,a mynegi dy weithredoedd nerthol.