14 Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio,a chodi pawb sydd wedi eu darostwng.
15 Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti,ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd;
16 y mae dy law yn agored,ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys.
17 Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrddac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.
18 Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno,at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.
19 Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni;gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.
20 Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu,ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.