5 Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant,a myfyrio ar dy ryfeddodau.
6 Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy,ac adrodd am dy fawredd.
7 Dygant i gof dy ddaioni helaeth,a chanu am dy gyfiawnder.
8 Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD,araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb.
9 Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb,ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.
10 Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD,a'th saint yn dy fendithio.
11 Dywedant am ogoniant dy deyrnas,a sôn am dy nerth,