2 Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem,y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.
3 Y mae'n iacháu'r rhai drylliedig o galon,ac yn rhwymo eu doluriau.
4 Y mae'n pennu nifer y sêr,ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.
5 Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth;y mae ei ddoethineb yn ddifesur.
6 Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig,ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.
7 Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch,canwch fawl i'n Duw â'r delyn.
8 Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau,ac yn darparu glaw i'r ddaear;y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt,a phlanhigion at wasanaeth pobl.