2 Yr un sy'n byw yn gywir, yn gwneud cyfiawnder,ac yn dweud gwir yn ei galon;
3 un nad oes malais ar ei dafod,nad yw'n gwneud niwed i'w gyfaill,nac yn goddef enllib am ei gymydog;
4 un sy'n edrych yn ddirmygus ar yr ysgymun,ond yn parchu'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD;un sy'n tyngu i'w niwed ei hun, a heb dynnu'n ôl;
5 un nad yw'n rhoi ei arian am log,nac yn derbyn cildwrn yn erbyn y diniwed.Pwy bynnag a wna hyn, nis symudir byth.