1 Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti.
2 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti yw f'arglwydd,nid oes imi ddaioni ond ynot ti.”
3 Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad,melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.
4 Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill;ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm,na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
5 Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan,ti sy'n diogelu fy rhan;