2 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti yw f'arglwydd,nid oes imi ddaioni ond ynot ti.”
3 Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad,melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.
4 Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill;ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm,na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
5 Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan,ti sy'n diogelu fy rhan;
6 syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol,ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
7 Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi;yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.
8 Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad;am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.