5 Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan,ti sy'n diogelu fy rhan;
6 syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol,ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
7 Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi;yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.
8 Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad;am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.
9 Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd,a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;
10 oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol,ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.
11 Dangosi i mi lwybr bywyd;yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd,ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.