1 Gwrando, ARGLWYDD, gri am gyfiawnder;rho sylw i'm llefa gwrandawiad i'm gweddioddi ar wefusau didwyll.
2 Doed fy marn oddi wrthyt ti,edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn.
3 Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos,chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof.
4 Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill,ond fe gedwais eiriau dy wefusau.
5 Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu,ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu.
6 Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw;tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau.