1 Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder.
2 Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf,fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer.
3 Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl,ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.
4 Pan oedd clymau angau'n tynhau amdanafa llifeiriant distryw yn fy nal,