16 Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
17 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.
18 Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
19 Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
20 Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.
21 Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;
22 yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.