18 Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
19 Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
20 Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.
21 Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;
22 yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.
23 Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.
24 Talodd yr ARGLWYDD i mi yn ôl fy nghyfiawnder,ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.