23 Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.
24 Talodd yr ARGLWYDD i mi yn ôl fy nghyfiawnder,ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.
25 Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,yn ddifeius i'r difeius,
26 ac yn bur i'r rhai pur;ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.
27 Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,ac yn darostwng y beilchion.
28 Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.
29 Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.