34 Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,i'm breichiau dynnu bwa pres.
35 Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,a'm cynnal â'th ddeheulaw,a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.
36 Rhoist imi le llydan i'm camau,ac ni lithrodd fy nhraed.
37 Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu dal;ni ddychwelaf nes eu difetha.
38 Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi,ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed.
39 Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr,a darostwng fy ngelynion odanaf.
40 Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.