38 Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi,ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed.
39 Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr,a darostwng fy ngelynion odanaf.
40 Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.
41 Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd,yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
42 Fe'u maluriaf cyn faned â llwch o flaen y gwynt,a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
43 Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd;pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
44 Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi,ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen.