41 Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd,yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
42 Fe'u maluriaf cyn faned â llwch o flaen y gwynt,a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
43 Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd;pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
44 Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi,ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen.
45 Y mae estroniaid yn gwangalonni,ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
46 Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig;dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
47 y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,ac yn darostwng pobloedd odanaf,