43 Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd;pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
44 Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi,ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen.
45 Y mae estroniaid yn gwangalonni,ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
46 Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig;dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
47 y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,ac yn darostwng pobloedd odanaf,
48 sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion,yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr,ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.
49 Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd,a chanaf fawl i'th enw.