5 pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchua maglau angau o'm blaen,
6 gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;clywodd fy llef o'i deml,a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
7 Crynodd y ddaear a gwegian,ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd,a siglo oherwydd ei ddicter ef.
8 Cododd mwg o'i ffroenau,yr oedd tân yn ysu o'i enau,a marwor yn cynnau o'i gwmpas.
9 Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed.
10 Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.
11 Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan,a chymylau duon yn orchudd.