7 Crynodd y ddaear a gwegian,ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd,a siglo oherwydd ei ddicter ef.
8 Cododd mwg o'i ffroenau,yr oedd tân yn ysu o'i enau,a marwor yn cynnau o'i gwmpas.
9 Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed.
10 Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.
11 Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan,a chymylau duon yn orchudd.
12 O'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau,a chenllysg a cherrig tân.
13 Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,a llefarodd llais y Goruchaf.