1 Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid;
2 O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried;paid â dwyn cywilydd arnaf,paid â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.
3 Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti,ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos.
4 Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD,hyffordda fi yn dy lwybrau.
5 Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi,oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth;wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd.
6 O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb,oherwydd y maent erioed.
7 Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,ond yn dy gariad cofia fi,er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.