12 Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;
13 fe gaiff fyw'n ffyniannus,a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.
14 Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDDa hefyd ei gyfamod i'w dysgu.
15 Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD,oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd.
16 Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf,oherwydd unig ac anghenus wyf fi.
17 Esmwythâ gyfyngder fy nghalon,a dwg fi allan o'm hadfyd.
18 Edrych ar fy nhrueni a'm gofid,a maddau fy holl bechodau.