7 Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,ond yn dy gariad cofia fi,er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.
8 Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.
9 Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.
10 Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirioneddi'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.
11 Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.
12 Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;
13 fe gaiff fyw'n ffyniannus,a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.