3 Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid,ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd.
4 Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth,nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr.
5 Yr wyf yn casáu cwmni'r rhai drwg,ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus.
6 Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog,ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD,
7 a chanu'n uchel mewn diolchgarwchac adrodd dy holl ryfeddodau.
8 O ARGLWYDD, yr wyf yn caru'r tŷ lle'r wyt yn trigo,y man lle mae dy ogoniant yn aros.
9 Paid â'm rhoi gyda phechaduriaid,na'm bywyd gyda rhai gwaedlyd,