1 Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf;fy nghraig, paid â thewi tuag ataf—rhag, os byddi'n ddistaw,imi fod fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
2 Gwrando ar lef fy ngweddipan waeddaf arnat am gymorth,pan godaf fy nwylotua'th gysegr sanctaidd.
3 Paid â'm cipio ymaith gyda'r drygionusa chyda gwneuthurwyr drygioni,rhai sy'n siarad yn deg â'u cymdogionond sydd â chynnen yn eu calon.
4 Tâl iddynt am eu gweithredoeddac am ddrygioni eu gwaith;tâl iddynt am yr hyn a wnaeth eu dwylo,rho eu haeddiant iddynt.
5 Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr ARGLWYDDna gwaith ei ddwylo ef,bydded iddo'u dinistrio a pheidio â'u hailadeiladu.