5 Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr ARGLWYDDna gwaith ei ddwylo ef,bydded iddo'u dinistrio a pheidio â'u hailadeiladu.
6 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDDam iddo wrando ar lef fy ngweddi.
7 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian;ynddo yr ymddiried fy nghalon;yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon,a rhof foliant iddo ar gân.
8 Y mae'r ARGLWYDD yn nerth i'w boblac yn gaer gwaredigaeth i'w eneiniog.
9 Gwareda dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth;bugeilia hwy a'u cario am byth.