2 Rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw;ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
3 Y mae llais yr ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd;Duw'r gogoniant sy'n taranu;y mae'r ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd cryfion!
4 Y mae llais yr ARGLWYDD yn nerthol,y mae llais yr ARGLWYDD yn ogoneddus.
5 Y mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio cedrwydd;dryllia'r ARGLWYDD gedrwydd Lebanon.
6 Gwna i Lebanon lamu fel llo,a Sirion fel ych ifanc.
7 Y mae llais yr ARGLWYDD yn fflachio'n fflamau tân.
8 Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r anialwch grynu;gwna'r ARGLWYDD i anialwch Cades grynu.