4 Canwch fawl i'r ARGLWYDD, ei ffyddloniaid,a rhowch ddiolch i'w enw sanctaidd.
5 Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes;os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
6 Yn fy hawddfyd fe ddywedwn,“Ni'm symudir byth.”
7 Yn dy ffafr, ARGLWYDD, gosodaist fi ar fynydd cadarn,ond pan guddiaist dy wyneb, brawychwyd fi.
8 Gelwais arnat ti, ARGLWYDD,ac ymbiliais ar fy Arglwydd am drugaredd:
9 “Pa les a geir o'm marw os disgynnaf i'r pwll?A fydd y llwch yn dy foli ac yn cyhoeddi dy wirionedd?
10 Gwrando, ARGLWYDD, a bydd drugarog wrthyf; ARGLWYDD, bydd yn gynorthwywr i mi.”