1 Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches,na fydded cywilydd arnaf byth;achub fi yn dy gyfiawnder,
2 tro dy glust ataf,a brysia i'm gwaredu;bydd i mi'n graig noddfa,yn amddiffynfa i'm cadw.
3 Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi;er mwyn dy enw, arwain a thywys fi.
4 Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer,oherwydd ti yw fy noddfa.
5 Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di;gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon.