11 I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg,i'm cymdogion yn watwar,ac i'm cyfeillion yn arswyd;y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.
12 Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof;yr wyf fel llestr wedi torri.
13 Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd,y mae dychryn ar bob llaw;pan ddônt at ei gilydd yn f'erbyny maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.
14 Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD,ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw.”
15 Y mae fy amserau yn dy law di;gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.
16 Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was;achub fi yn dy ffyddlondeb.
17 ARGLWYDD, na fydded cywilydd arnaf pan alwaf arnat;doed cywilydd ar y drygionus,rhodder taw arnynt yn Sheol.