6 Yr wyf yn casáu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag,ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD.
7 Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb,oherwydd iti edrych ar fy adfyda rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder.
8 Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn,ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored.
9 Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;y mae fy llygaid yn pylu gan ofid,fy enaid a'm corff hefyd;
10 y mae fy mywyd yn darfod gan dristwcha'm blynyddoedd gan gwynfan;fe sigir fy nerth gan drallod,ac y mae fy esgyrn yn darfod.
11 I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg,i'm cymdogion yn watwar,ac i'm cyfeillion yn arswyd;y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.
12 Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof;yr wyf fel llestr wedi torri.