1 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn;i'r rhai uniawn gweddus yw moliant.
2 Molwch yr ARGLWYDD â'r delyn,canwch salmau iddo â'r offeryn dectant;
3 canwch iddo gân newydd,tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.
4 Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD,ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.
5 Y mae'n caru cyfiawnder a barn;y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
6 Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd,a'i holl lu trwy anadl ei enau.
7 Casglodd y môr fel dŵr mewn potel,a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.