1 Ymryson, O ARGLWYDD, yn erbyn y rhai sy'n ymryson â mi,ymladd yn erbyn y rhai sy'n ymladd â mi.
2 Cydia mewn tarian a bwcled,a chyfod i'm cynorthwyo.
3 Tyn allan y waywffon a'r bicellyn erbyn y rhai sy'n fy erlid;dywed wrthyf, “Myfi yw dy waredigaeth.”
4 Doed cywilydd a gwarthar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i midroi yn eu holau mewn arswyd.
5 Byddant fel us o flaen gwynt,ac angel yr ARGLWYDD ar eu holau.
6 Bydded eu ffordd yn dywyll a llithrig,ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.
7 Oherwydd heb achos y maent wedi gosod rhwyd i mi,ac wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.