12 Talant imi ddrwg am dda,a gwneud ymgais am fy mywyd.
13 A minnau, pan oeddent hwy yn glaf,oeddwn yn gwisgo sachliain,yn ymddarostwng mewn ympryd,yn plygu pen mewn gweddi,
14 fel pe dros gyfaill neu frawd imi;yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam,wedi fy narostwng ac mewn galar.
15 Ond pan gwympais i, yr oeddent hwy yn llawenac yn tyrru at ei gilydd i'm herbyn—poenydwyr nad oeddwn yn eu hadnabodyn fy enllibio heb arbed.
16 Pan gloffais i, yr oeddent yn fy ngwatwar,ac yn ysgyrnygu eu dannedd arnaf.
17 O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych?Gwared fi rhag eu dinistr,a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr.
18 Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr,a'th foliannu gerbron tyrfa gref.