8 Doed distryw yn ddiarwybod arnynt,dalier hwy yn y rhwyd a osodwyd ganddynt,a bydded iddynt hwy eu hunain syrthio i'w distryw.
9 Ond llawenhaf fi yn yr ARGLWYDD,a gorfoleddu yn ei waredigaeth.
10 Bydd fy holl esgyrn yn gweiddi,“Pwy, ARGLWYDD, sydd fel tydi,yn gwaredu'r tlawd rhag un cryfach nag ef,y tlawd a'r anghenus rhag un sy'n ei ysbeilio?”
11 Fe gyfyd tystion maleisusi'm holi am bethau nas gwn.
12 Talant imi ddrwg am dda,a gwneud ymgais am fy mywyd.
13 A minnau, pan oeddent hwy yn glaf,oeddwn yn gwisgo sachliain,yn ymddarostwng mewn ympryd,yn plygu pen mewn gweddi,
14 fel pe dros gyfaill neu frawd imi;yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam,wedi fy narostwng ac mewn galar.