1 ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid,ac na chosba fi yn dy ddig.
2 Suddodd dy saethau ynof,y mae dy law yn drwm arnaf.
3 Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd,nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod.
4 Aeth fy nghamweddau dros fy mhen,y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal.
5 Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawnioherwydd fy ffolineb.
6 Yr wyf wedi fy mhlygu a'm darostwng yn llwyr,ac yn mynd o amgylch yn galaru drwy'r dydd.