1 Cymer fy mhlaid, O Dduw,ac amddiffyn fy achosrhag pobl annheyrngar;gwared fi rhag dynion twyllodrus ac anghyfiawn,
2 oherwydd ti, O Dduw, yw fy amddiffyn.Pam y gwrthodaist fi?Pam y rhodiaf mewn galar,wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?
3 Anfon dy oleuni a'th wirionedd,bydded iddynt fy arwain,bydded iddynt fy nwyn i'th fynydd sanctaiddac i'th drigfan.
4 Yna dof at allor Duw,at Dduw fy llawenydd;llawenychaf a'th foliannu â'r delyn,O Dduw, fy Nuw.
5 Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,ac mor gythryblus o'm mewn!Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,fy Ngwaredydd a'm Duw.