1 Symbylwyd fy nghalon gan neges dda;adroddaf fy nghân am y brenin;y mae fy nhafod fel pin ysgrifennydd buan.
2 Yr wyt yn decach na phawb;tywalltwyd gras ar dy wefusauam i Dduw dy fendithio am byth.
3 Gwisg dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr;â mawredd a gogoniant addurna dy forddwyd.
4 Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder,a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.