6 Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol,a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.
7 Ceraist gyfiawnder a chasáu drygioni;am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinioag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.
8 Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.
9 Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.
10 Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust:anghofia dy bobl dy hun a thŷ dy dad;
11 yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch,oherwydd ef yw dy arglwydd.
12 Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus,a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.