8 Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.
9 Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.
10 Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust:anghofia dy bobl dy hun a thŷ dy dad;
11 yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch,oherwydd ef yw dy arglwydd.
12 Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus,a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.
13 Cwbl ogoneddus yw merch y brenin,cwrel wedi ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,
14 ac mewn brodwaith yr arweinir hi at y brenin;Ar ei hôl daw ei chyfeillesau, y morynion;