1 Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni,yn gymorth parod mewn cyfyngder.
2 Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symudac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr,
3 er i'r dyfroedd ruo a therfysguac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd.Sela
4 Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw,preswylfa sanctaidd y Goruchaf.
5 Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi;cynorthwya Duw hi ar doriad dydd.
6 Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian;pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear.