6 Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian;pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear.
7 Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yn gaer i ni.Sela
8 Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD,fel y dygodd ddifrod ar y ddaear;
9 gwna i ryfeloedd beidio trwy'r holl ddaear,dryllia'r bwa, tyr y waywffon,a llosgi'r darian â thân.
10 Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw,yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd,yn ddyrchafedig ar y ddaear.
11 Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yn gaer i ni.Sela