1 Curwch ddwylo, yr holl bobloedd;rhowch wrogaeth i Dduw â chaneuon gorfoledd.
2 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy,yn frenin mawr dros yr holl ddaear.
3 Fe ddarostwng bobloedd odanom,a chenhedloedd o dan ein traed.
4 Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni,balchder Jacob, yr hwn a garodd.Sela
5 Esgynnodd Duw gyda bloedd,yr ARGLWYDD gyda sain utgorn.