6 Canwch fawl i Dduw, canwch fawl;canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.
7 Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear;canwch fawl yn gelfydd.
8 Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd,y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.
9 Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnullgyda phobl Duw Abraham;oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear—fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.