1 Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd;galwodd y ddaearo godiad haul hyd ei fachlud.
2 O Seion, berffaith ei phrydferthwch,y llewyrcha Duw.
3 Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw;bydd tân yn ysu o'i flaen,a thymestl fawr o'i gwmpas.
4 Y mae'n galw ar y nefoedd uchod,ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl:
5 “Casglwch ataf fy ffyddloniaid,a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.”