14 Rhowch i Dduw offrymau diolch,a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf.
15 Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngderfe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”
16 Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw,“Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau,ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau?
17 Yr wyt yn casáu disgyblaethac yn bwrw fy ngeiriau o'th ôl.
18 Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn,a bwrw dy goel gyda godinebwyr.
19 Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni,a'th dafod yn nyddu twyll.
20 Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd,ac yn enllibio mab dy fam.