20 Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd,ac yn enllibio mab dy fam.
21 Gwnaethost y pethau hyn, bûm innau ddistaw;tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun,ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn.
22 “Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw,rhag imi eich darnio heb neb i arbed.
23 Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu,ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw.”