5 “Casglwch ataf fy ffyddloniaid,a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.”
6 Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,oherwydd Duw ei hun sydd farnwr.Sela
7 “Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf;dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel;myfi yw Duw, dy Dduw di.
8 Ni cheryddaf di am dy aberthau,oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron.
9 Ni chymeraf fustach o'th dŷ,na bychod geifr o'th gorlannau;
10 oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,a'r gwartheg ar fil o fryniau.
11 Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr,ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.